O Iesu cymer d(y) allu mawr

(Gallu Duw)
O! Iesu! cymer dy allu mawr,
  Teyrnasa'n awr mewn nerth:
Addoled holl drigolion llawr
  Breswylydd mawr y Berth.

At wedd dy wyneb
    nid yw ddim,
  Trysorau maith y llawr,
Mae gair o'th enau'n llawer mwy
  Ei rym nag uffern fawr.

Dy allu yw fy nerth a'm grym,
  Yn d'allu byddaf byw;
'Rwy'n wan, 'rwy'n llesg, nid allaf ddim,
  Un fynyd heb fy Nuw.
cymer dy allu :: cymer d'allu

William Williams 1717-91

Tôn [MC 8686]: St Mary
    (o "Psalmydd Cymreig" E Prys 1620)

gwelir:
  At wedd dy wyneb nid yw ddim
  Ffoed negeseuau gwag y dydd

(The Power of God)
O Jesus, take thy great power!
  Rule now in strength:
Let all inhabitants below worship
  The great Resident of the Bush.

To the likeness of thy countenance
    there is nothing,
  Extensive treasures of below,
A word from thy mouth is much greater
  In its force than great hell.

Thy power is my strength and my force,
  In thy power I shall live;
I am weak, I am feeble, I can do nothing,
  One minute without my God.
::

tr. 2013 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~